Iwan Gwyn Parry RCA g.1970
Wedi’i eni yn 1970, cwblhaodd Iwan Gwyn Parry gwrs MA yn Ysgol Gelf Chelsea, Llundain ym 1993 cyn dychwelyd i’w gartref yng Ngogledd Cymru lle y mae bellach yn darlithio yng Ngholeg Menai, Bangor. Ers yn ifanc mae arfordir gogledd Cymru wedi chwarae rhan allweddol yn ei fywyd, ac mae nifer o'i beintiadau yn cynnwys elfennau o'r tirlun morlun hwn. Nid yw ei baentiadau yn ddarluniau topograffig o lefydd penodol, ond yn hytrach yn gyfeiriadau cyffredinol at y dirwedd o’i amgylch. Mae Iwan yn cael ei ystyried yn un o artistiaid tirluniau mwyaf blaengar Cymru.
"Mae’r tirluniau rydw i’n eu peintio yn cyfeirio at gyflwr meddwl gymaint ag y gwnânt at lefydd penodol, sef Gogledd Orllewin Ynys Môn lle y cefais fy ngeni a’m magu. Mae tirlun fy mhlentyndod yn parhau i fod yn ardal hudolus, eang a tawel, mannau wedi’u curo gan yr elfennau a’r rhain yn aros yn fy nychymyg.
Mae’r weithred o beintio yn broses o ddatguddio, a defnyddiaf drosiadau i greu a chyfansoddi’r gwaith. Mae’r adeiladwaith yn drosiad sy’n cyfeirio at fodolaeth dyn, gyda gwaith llaw dyn ar y tir yn amlwg yn yr awgrym o bolion ffens, gatiau llifddor, argloddiau ac adeiladau, bellach yn wag ond yn gadael marc dyn ar y tirlun. Noda’r elfennau yma dreuliad amser a defnydd y tir o genhedlaeth i genhedlaeth.
Mae gen i ddiddordeb mewn lliw sy’n creu’r synnwyr o ofod a dyfnder yn y tirlun, er enghraifft o aer, amser ac atmosffer, gyda’r lliw yn cael ei greu trwy bentyrru nifer o haenau tryloyw. Mae’r peintiadau yn ymwneud gyda’m her bersonol o ddarganfod iaith weledol sy’n cyfateb i’m hysbrydoliaeth."
Casgliadau a Gwobrau
2012 Casgliad Celf y Llywodraeth
2008 Prifysgol Morgannwg
2007 Casgliad Cymdeithas Celfyddydau Gyfoes Cymru
2004 Aelod o'r Academi Frenhinol Gymreig
1999 Cyngor Sir Ynys Mon
1999 Ennillydd, Eisteddfod Genedlaethol, Ynys Mon