Kate Milsom g.1968
Astudiodd Kate Gelfyddyd Gain ym Mhrifysgol Brookes Rhydychen, gan dreulio ei blwyddyn olaf yn Ysgol Athrofa Celfyddyd Chicago yn sgil gwobr deithio estynedig. Graddiodd ym 1992 a symudodd yn ôl i Lundain, lle, am gyfnod, bu ym myd dylunio graffeg a darlunio, gan weithio i Raymond Loewy Rhyngwladol, ac yn ddiweddarach yn Diwtor Cwrs yng Ngholeg Lambeth, ac wedyn yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerwrangon.
Erbyn diwedd y 1990au, wedi iddi gael ei hannog i ddilyn ei gyrfa peintio gan y diweddar Elizabeth Organ, sef perchennog egnïol oriel ac eiriolwr celf, siapiodd cyfres o ddigwyddiadau ei gwaith dilynol, gan ddechrau gyda symud o Lundain i Swydd Henffordd, priodas gythryblus mewn castell tebyg i un yn 'Gormenghast ', a chyfnod diweddarach o alltudiaeth yn Fenis.
Mae Kate yn arddangos yn helaeth - mae ei gwaith wedi cael ei ddangos yn fwyaf diweddar yn Academi Frenhinol Gorllewin Lloegr, Bryste ac yn Oriel Mernier yn Llundain, ac mae'r nifer o gasglwyr preifat Ewropeaidd o Dde Ffrainc i Groatia sydd yn dilyn ei gyrfa yn cynyddu.
Mae hi'n dweud am ei gwaith:
"Dechreuais gynhyrchu darnau cyfryngau cymysg cymhleth yn ystod fy arhosiad hir yn Fenis, gan wneud defnydd o'r effemera o bamffledi amgueddfeydd a chardiau post a daflwyd ar lawr y ddinas. Drwy ymgorffori 'sbarion' o'r gorffennol o lyfrau a chylchgronau ail-law, a'r mapiau a oedd yn rhan o fy magwraeth fel plentyn i Geoffisegydd mentrus, fe wnes i gynhyrchu dyddiadur o ryw fath, realiti gwahanol i'r hanes yr wyf wedi dyfeisio i mi fy hun. Ers hynny, rwyf wedi datblygu'r ffordd hon o weithio, ac rwyf yn cael fy ysbrydoli yn aml gan ddigwyddiadau cyfoes, gan greu 'golygfeydd cymhleth o gamweithio cymdeithasol', fy ymchwiliadau i'r 'cyflwr dynol' mewn cyfres o bortreadau dychmygol."