Mali Morris RA g.1945

Ganwyd Mali Morris yng ngogledd Cymru ac astudiodd Celfyddyd Gain ym Mhrifysgol Newcastle upon Tyne (BA) a Phrifysgol Reading (MFA). Mae hi wedi arddangos ei gwaith yn eang ym Mhrydain a dramor ers 1977.

Mae ei gwaith yn rhan o gasgliadau preifat a chyhoeddus ledled y byd, gan gynnwys Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Cyngor Celfyddydau Lloegr, y Cyngor Prydeinig, Cymdeithas Celfyddydau Cyfoes, Casgliad Celf y Llywodraeth ac Oriel Gelf Whitworth, Manceinion. Enillodd wobr yng Nghystadleuaeth Creekside Open X 2 yn fis Mai 2007, ac fe dderbyniodd wobr 'Sunny Dupree' yn Arddangosfa Haf yr Academi Frenhinol yn 2008. Roedd hi'n Gadeirydd ar banel dethol Peintwyr Cyfoes Jerwood yn 2009 ac yn fentor/hetholwraig ar gyfer Cymrodoriaeth Peintio Jerwood, 2012-13.

Mae hi wedi dysgu ac arholi mewn sawl adran celf gain, gan gynnwys Coleg Celf Brenhinol, Ysgol Gelf Slade, Prifysgol Reading a Choleg Celf a Dylunio Chelsea, Prifysgol y Celfyddydau, Llundain, lle'r oedd hi'n uwch ddarlithydd peintio rhwng 1991 - 2005. Yn ystod mis Mawrth 2010, etholwyd yn Aelod o Academi Frenhinol y Celfyddydau.

 

Above is Home Address, her studio is at the APT Gallery, 6 Creekside, Deptford, London, SE8 4SA

http://www.aptstudios.org/gallery/