Ceri Richards (1903 - 1971)
Cydnabyddir Ceri Richards fel un o arlunwyr pwysicaf Cymru yn ystod ganol yr ugeinfed ganrif. Ganwyd yn Dunvant ger Abertawe ym 1903, ac astudiodd yn Ysgol Gelf Abertawe cyn ennill ysgoloriaeth i astudio yng Ngholeg Celf Frenhinol, Llundain. Yn ei ddydd, chyd-arddangosai a'i gyfoeswyr Henry Moore, John Piper a Graham Sutherland yn aml, ac fe gynrychiolodd Prydain mewn nifer o arddangosfeydd rhyngwladol. Ym 1962 enillodd wobr yn y Venice Biennale. Cynrychiolir ei waith mewn nifer o brif amgueddfeydd y byd, ac mae casgliad o dros 90 o’i waith yn Oriel y Tate, Llundain.
Yn bianydd medrus, yn aml dilynai ei waith themâu cerddorol; amlygir hyn yn ei gyfres yn seiliedig ar 'Debussy’s Preludes' yn ogystal â'i 'Hammerklavier Suite' a'i 'Beethoven Suite with Variations'. Yng Nghymru efallai ei fod yn fwyaf adnabyddus am ei beintiadau a darluniau yn seiliedig ar farddoniaeth Dylan Thomas.
Casgliadau
Oriel Tate, Llundain
Oriel Genedlaethol Portreadaul, Llundain
Amgueddfa ac Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe
Amgueddfa ac Oriel Genedlathol Cymru
Amgueddfa ac Orielau Leeds
Amgueddfa Fitzwilliam, Caergrawnt
Oriel Genedlaethol yr Alban o Gelf Cyfoes, Caeredin
Amgueddfa Llundain
Orielau Celf Dinas Manceinion
Orielau Leicester
Oriel Gelf Walker, Lerpwl
Amgueddfa Rhyfel, Llundain
Amgueddfa ac Oriel Gelf Dinas Birmingham
Pallant House, Chichester
Casgliad Cyngor y Celfyddydau, Oriel Hayward, Llundain
Amgueddfa ac Oriel Casnewydd
Prifysgol Cymru, Aberystwyth
Cyngor Celfyddydau Cymru
Cymdeithas Gelf Cyfoes
Oriel Gelf Dinas Southampton
Amgueddfa Celf Toledo, Ohio, UDA
Coleg Brenhinol Celf a Drama Cymru
Amgueddfa ac Orielau Cenedlaethol Gogledd Iwerddon
Casgliad Celf Llywodraeth Prydain
Y Cyngor Prydeinig
Coleg St Anne, Rhydychen
Amgueddfa Dinas Portsmouth
Amgueddfa Israel, Jerwsalem
Catalog Arddangosfa - Gwaith Dylan Thomas - Chwefror 2014
Catalog Arddangosfa 'Penintiadau, Darluniau a Phrintiau' - Ionawr 2016