Cyflun
Cyflun
Cyflun
Cyflun
Cyflun
Cyflun
Cyflun
Cyflun
Cyflun
Cyflun
Cyflun
Cyflun
Cyflun
Cyflun
Cyflun

Arddangosfa Bresennol Gweld

Shani Rhys James - Peintiadau Newydd

9 Mai 2013 - 8 Mehefin 2013

Sefydlwyd Oriel Martin Tinney yng Nghaerdydd yn 1992 ac y mae bellach yn cael ei gydnabod fel prif oriel fasnachol preifat Cymru. Arbenigedd yr oriel yw celf Cymreig ac artistiaid o'r radd flaenaf a fu ac sy'n gweithio yng Nghymru, o'r gorffennol a'r presennol. Symudodd yr oriel i'w chartref presennol yn 2002 ar ôl gweddnewidiad o dy tref o'r 19ed ganrif gydag estyniad pwrpasol, gan ddarparu tair llawr o ofod arddangos hyfryd.

Mae'r oriel yn arddangos gwaith gan artistiaid pwysicaf Cymru, gan gynnwys Harry Holland, Sally Moore, Gwilym Prichard, Shani Rhys James a Kevin Sinnott yn ogystal â'r gorau o'r genhedlaeth nesaf. Mae stoc hefyd o waith gan artistiaid blaengar yr 20ed ganrif, gan gynnwys Gwen John, Augustus John, Ceri Richards, David Jones, Syr Cedric Morris, John Piper, Graham Sutherland, Josef Herman, Peter Prendergast, Sir Kyffin Williams ac Evelyn Williams.

Ceir arddangosfa fisol yn y brif oriel ac arddangosfa newidiol o beintiadau, graffigwaith a cherfluniau yng ngweddill yr adeilad. Yn ogystal, y mae storfa fawr o waith yn yr oriel, a'r rhain ar gael i'w gweld drwy gais.

Cynhwysa gwsmeriaid yr oriel sefydliadau fel Oriel y Tate, Llundain ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru, yn ogystal â nifer o gleiantiaid preifat ym Mhrydain a ledled y byd. Yr oriel hon yw'r unig oriel Gymreig sy'n cynrychioli ac yn arddangos mewn nifer i brif ffeiriau celf Prydain, gan gynnwys Ffair Gelf Llundain a Ffair Gelf Prydain 20/21, ac y mae'n hybu celf Cymreig drwy arddangos yn rheolaidd yn Llundain ac ymhellach. Mae'r oriel yn aelod o S.L.A.D - Cymdeithas Delwyr Celf Llundain (Society of London Art Dealers).

Mae awyrgylch yr oriel yn groesawgar ac yn anffurfiol, ac os ydych â diddordeb mewn adeiladu casgliad difrifol o gelf Cymreig neu'n chwilio am ddarn arbennig, mae'r oriel yn edrych ymlaen i'ch croesawi.

Oriau Agor

Llun-Gwener, 10:00-18:00

Sadwrn, 10:00-17:00

Suliau a Gwyliau Banc, ar gau

Grwpiau trwy apwyntiad yn unig os gwelwch yn dda

Cynllun Casglu

Mae Cynllun Casglu yn wasanaeth credyd di-log sydd yn rhoi cymorth
i chi brynu celf a chrefft gyfoes.