Peter Prendergast RCA (1946 - 2007)
Roedd Peter Prendergast yn un o artistiaid tirlun mwyaf blaenllaw Prydain. Ysbrydolwyd gan dirwedd Eryri ble bu'n byw, ac mae ei beintiadau mynegiannol yn nodweddiadol am eu grym a'u hegni.
Ganwyd Peter yn Abertridwr, de Cymru ym 1946 ond bu'n byw yng ngogledd Cymru am rai blynyddoedd hyd nes ei farwolaeth yn 2007. Hyfforddwyd yn Ysgol Gelf Slade, Llundain o dan yr athro Frank Auerbach, ac yng Ngholeg Celf Caerdydd. Mae wedi’i arddangos yn eang ym Mhrydain a thramor ac mae ei waith i'w weld mewn sawl casgliad preifat a chyhoeddus. Ym 1978 etholwyd ef yn aelod o'r Academi Frenhinol Gymreig.
Casgliadau
Oriel y Tate, Llundain
Amgueddfa Genedlaethol Cymru
Amgueddfa Prydain, Llundain
Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe
Stadts Galerie, Stuttgart
Cymdeithas Gelfyddyd Gyfoes Cymru
Cyngor y Celfyddydau Cymru
Cymdeithas Gelfyddydol Gogledd Cymru
Cymdeithas Gelfyddydol y Gorllewin, Manceinion
Oriel Genedlaethol Slovakia, Bratislava
Ymddiriedolaeth Cenedlaethol
Oriel Cyngor Caerfyrddin