The Red Chair - Shani Rhys James


Shani Rhys James MBE RCA g.1953

Shani Rhys James yw un o arlunwyr Cymreig mwyaf cyffrous a llwyddiannus ei chenhedlaeth. Mae ei henw da yn parhau i dyfu, yng Nghymru a thu hwnt. Yn y blynyddoedd diwethaf mae ei gwaith wedi ymddangos mewn nifer o arddangosfeydd o fri ym Mhrydain a thrwy Ewrop, ac mae wedi derbyn cymeradwyaeth sylweddol yn y wasg genedlaethol. Disgrifia William Packer, ysgrifennydd celf y Financial Times, hi fel artist  a phŵer rhyfeddol, y mae eu paentiadau mor argyhoeddiadol ag unrhyw beth sydd yn cael ei gynhyrchu ym Mhrydain ar hyn o bryd.

Mae wedi ennill nifer o wobrwyon, gan gynnwys Gwobr Jerwood (prif wobr arlunio ym Mhrydain) yn 2003 a'r fedal Aur yn Eisteddfod Genedlaethol 1992. Derbyniodd Wobr 'Welsh Woman in Culture' yn 2003 a dyfarnwyd hi ar MBE yn 2006. 

Mae ganddi gorff eang o gasglwyr, preifat a chyhoeddus, sy'n parhau i ehangu ym Mhrydain a thramor, gyda gwerthiant i gasgliadau pwysig yn yr Amerig, Gwlad Belg, Ffrainc, Yr Almaen, Seland Newydd, Awstralia a Hong Kong.

Gwobrau

2017                Cymrodoriaeth Anrhydeddus, Prifysgol Glyndwr

2008                Cymrodoriaeth Anrhydeddus, Coleg Celf Henffordd

2007                Cymrodoriaeth Anrhydeddus, Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd     

2007                Gwobr Glyndwr am Gyfraniad Rhagorol i Gelfyddydau yng Nghymru

2006                Gwobr Cymru Greadigol, Cyngor Celfyddydau Cymru.

2006                Dyfarnwyd yr MBE

2003                Enillydd Gwobr Arlunio Jerwood

2003                Menyw Diwylliant, Gwobrau i Fenywod Cymru y Flwyddyn.

1994                Aelod etholedig o Grwp 56 Cymru

1994                Aelod etholedig o'r Academi Frenhinol Cymreig   

1994                Enillydd Gwobr, Gwobr Portreadau Genedlaethol BP

1994                Enillydd Gwobr Celf Weledol BBC Cymru 1994

1993                Gwobr Gyntaf, Gwobrau Gelf Hunting / Observer

1992/3             Gwobr Teithio, Cyngor Celfyddydau Cymru

1992                Fedal Aur am Gelfyddyd Gain, Eisteddfod Genedlaethol

1991                Gwobr Gyntaf, Mostyn Agored, Oriel Mostyn, Llandudno

1990                Ail wobr, Cymru Agored, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

1989                Gwobr Gyntaf, Cymru Agored, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth.

1985                Grant Cyngor Celfyddydau Cymru.

Casgliadau

Amgueddfa Cymru, Caerdydd

Oriel Gelf Fodern, Glasgow

Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd

Amgueddfa ac Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe

Oriel Gelf Dinas Birmingham

Oriel Gelf Wolverhampton

Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth

Oriel Usher, Lincoln

Amgueddfa Celf Fodern Cymru, Machynlleth

Cymdeithas Celf Gyfoes Cymru

Cyngor Celfyddydau Lloegr

Coleg New Hall, Caergrawnt

Sefydliad Jerwood

Bwrdeistref Tower Hamlets Llundain

BBC Cymru

Casgliadau Preifat Byd-eang.