Ishbel McWhirter RCA g.1927

Ganwyd Ishbel McWhirter yn Llundain ym 1927, a dechreuodd beintio yng Ngogledd Cymru ym 1953. Astudiodd yn Ysgol Summerhill A.S.Neill, ac yna fel disgybl dan yr artist Oscar Kokoshka yn ei 'Ysgol Gweld' yn Salzburg.

Ysgrifennodd Kokoshka ym 1945, "Rwy'n gweld bod fy nisgybl Ishbel McWhirter yn cael ei hysgogi gan chwilfrydedd...mae hi'n darlunio ei harwresau gyda golwg araul, bell, gan ddangos ysgafnder hyfryd yn ogystal â hynodrwydd o'r dylunwyr y ffiolau angladdol gwyn o Wlad Groeg hynafol."

Bu Kokoshka yn ei annog i ddefnyddio 'lliwiau bywiog gwrth-seisnig' ac o ganlyniad, daeth ei gwaith yn adnabyddus am ei defnydd o ddyfrlliwiau a phaent olew lliwgar, yn aml wrth beintio golygfeydd o'r Fenai. Er hyn, mae hi'n bennaf yn cael ei hadnabod am ei phortreadau, sy'n cynnwys: Melvyn Bragg, Monsignor Gilby, Syr Kyffin Williams, Tom Conti, Germaine Greer a Lord Longford. Cafodd ei hethol i'r Academi Frenhinol Gymreig ym 1994.

Mae hi'n peintio yn ei stiwdio ar Ynys Môn, sydd â golygfeydd panoramig o'r Fenai ac Eryri; golygfeydd sydd yn ei hudo ac yn ysbrydoli ei gwaith hyd heddiw

Casgliadau

Oriel Portread Cenedlaethol, Llundain

Amgueddfa Victoria & Albert, Llundain

Oriel Portread Cenedlaethol yr Alban, Caeredin

Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth