Church Street, Treherbert I - Charles Burton


Charles Burton g.1929

Ganwyd Charles Burton yn Nhreherbert yn 1929, a magwyd ef yn y Rhondda Fawr. Erbyn ei ugeiniau cynnar roedd ei gelf yn cael ei brynu gan athrofeydd cyhoeddus a chasglwyr preifat pwysig. Enillodd fedal  Aur Celfyddyd Gain yn yr Eisteddfod Genedlaethol pan oedd ond yn 25.  Wrth astudio yng Ngholeg Celf Caerdydd yn y 1940au, roedd yng nghanol y 'Grŵp Rhondda', ynghyd a'i ffrindiau Ernie Zobole a Glynn Morgan.  Wedi astudiaethau pellach yng Ngholeg Brenhinol Celf, Llundain, bu'n athro. Charles oedd pennaeth yr adran beintio yng Ngholeg Celf Lerpwl ac yna, o 1970 hyd ei ymddeoliad, yn bennaeth Celf a Chynllunio yng Ngholeg Polytechnig Cymru.

Mae Charles yn beintiwr preifat iawn.  Fel llawer o'r artistiaid rydym yn gwerthfawrogi fwyaf, nid peintio i blesio’r gynulleidfa yw ei fwriad, ond  i blesio'i hun.  Defnyddia nifer o destunau: tirluniau, bywyd llonydd, ffigurau a chelfi; ond mae ei waith yn gydbwysedd o ofod dilys a'r cariad a ddaw o'i destun.  Yn dawel a llonydd, nid yw ei waith i bobl sy'n chwilio am effaith mawr ac unionsyth, ond wrth edrych yn ofalus, ni chollir dim o'u gwerth.

Casgliadau

Amgueddfa Genedlaethol Cymru

Amgueddfa ac Oriel Casnewydd

Cyngor Celfyddydau Cymru

Cymdeithas Gelfyddyd Gyfoes Cymru

Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe

Ty'r Arglwyddi

BBC Cymru, Caerdydd

Adran yr Amgylchedd

Nifer o Brifysgolion a Chynghorau Lleol

Casgliadau preifat ledled y byd