Gwilym Prichard RCA (1931 - 2015)
Bu Gwilym yn enwog am ei ddefnydd o'i baled ddramatig a lliwgar, yn peintio mewn modd trwchus a mynegiannol mewn ffordd a oedd yn haru tirwedd Cymru i'w graidd. Yng ngeiriau Ceri Richards roedd Gwilym Prichard 'yn peintio at yr esgyrn o dan y tir'. Drwy wneud hyn y galluodd i arddangos ei orfoledd yng nghyfoeth a phrydferthwch ei wlad frodorol.
Dros yr ugain mlynedd diwethaf, rhannodd Gwilym ei amser rhwng ei Gymru frodorol a Llydaw yn Ffrainc, lle bu'n arddangos yn reolaidd. Ym 1995 dyfarnwyd iddo Fedal Arian gan Academi Celf, Gwyddoniaeth a Llenyddiaeth Ffrainc. Ym 1970 etholwyd ef yn aelod o Academi Frenhinol Gymreig ac roedd yn Gymrawd Anrhydeddus o Brifysgol Cymru. Daeth yn ol i Gymru i fyw a gweithio yn 1999, ac yn gwneud tripiau rheolaidd i gogledd a gorllewin Cymru. Bu farw Gwilym yn dawel ym Mehefin 2015.
Casgliadau
Cyngor y Celfyddydau Cymru
Cymdeithas Gelfyddyd Gyfoes Cymru
Casgliad Celf y Llywodraeth
Coleg Lincolm, Rhydychen
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Sefydliad Nuffield
Prifysgol Cymru, Aberystwyth
Prifysgol Cymru, Bangor
Casgliadau Preifat ledled y byd