Gareth Parry RCA g.1951
Ganwyd Gareth Parry ym Mlaenau Ffestiniog i deulu o chwarelwyr. Ar ôl gadael yr ysgol aeth i Goleg Celf Manceinion, ond gadawodd cyn gorffen y cwrs. Dychwelodd adref a bu’n gweithio mewn chwarel lechi lleol am ddwy flynedd cyn ail ddechrau ar beintio.
Am gyfnod hir bu'n gweithio yn bennaf ar gomisiynau preifat ac "unrhyw beth i wneud bywoliaeth gyda'i frwsh". Yna, yn 1980, penderfynodd ganolbwyntio ar arddangosfeydd, ac fel y dywed, "gwneud yr hyn yr wyf yn hoffi". Am ddeng mlynedd neu fwy bu'n paentio tu allan o flaen ei destun ym mhob tywydd, dysgodd i beintio gyda chyn lleied o ffwdan, ac i fod yn ddetholus wrth wynebu myrdd o fanylion naturiol. Tybiau fod y cyfnod hwn yn hanfodol i'w datblygiad gan ddweud, "yr addysgu gorau y gallwn i erioed wedi gael."
"Cymru" a’r "Cymry" ydi testun ei waith yn bennaf. Yn ddiweddar, mae'r gwaith yn cael ei greu yn y stiwdio. Mae ei beintiadau wedi eu seilio'n bennaf ar frasluniau neu o'r cof. Mae ei dirluniau yn ymdrin ag awyrgylch ac effeithiau, yn hytrach na lle. Mae ei luniau o bobl yn aml yn adlewyrchu ei deimladau o fod yn byw mewn Cymru sydd yn newid.
Yn 2006 etholwyd ef yn aelod o Yr Academi Frenhinol Gymreig.
Casgliadau
Llyfyrgell Genedlaethol Cymru
Banc Coutts & Co
Cyngor Sir Gwynedd
Oriel Ynys Mon