Breezy Day, Welsh Coast - Edward Morland Lewis


Edward Morland Lewis (1903 - 1943)

Ganwyd Edward Morland Lewis yng Nghaerfyrddin ym 1902. Hyfforddwyd yn Ysgol Gelf St John ac yn Ysgolion yr Academi Frenhinol, lle fu gyfarfod a Sickert. Gadawodd yr Academi, ac aeth i ddysgu dan Sickert, ac i weithio iddo fel cynorthwywr. Ym 1930, ymunodd a Chymdeithas Artistiaid Llundain, a bu’n arddangos gyda’r grŵp nes 1934.

Roedd nifer o’i beintiadau yn seiliedig ar ffotograffau y byddai’n cymryd ei hun. Yn debyg i Sickert, roedd yn tueddu i beintio clytwaith o liw dros îs-beintiad o liwiau cynnes. Roedd yn canolbwyntio ar drefi glan y môr de Cymru, Iwerddon, gogledd Ffrainc a Sbaen. Mae’n ddiddorol i gymharu ei beintiadau â’i ffotograffau er mwyn gweld sut byddai’n trawsnewid yr olygfa gyda chyfrwng gwahanol. Fel arfer byddai’r cyfansoddiad yn gywir, ond byddai’n gorliwio’r lliwiau.

Ar wahân i’w gysylltiad agos â Sickert a Chymdeithas Artistiaid Llundain, roedd Morland Lewis yn ffigwr unig. Ymunodd â staff Coleg Celf Chelsea, lle bu’n gweithio ar y cyd gyda Henry Moore, Graham Sutherland a John Piper.

Fe fu farw yng ngogledd Affrica ym 1943, wrth weithio fel swyddog cuddliw yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

 

Casgliadau

Amgueddfa Genedlaethol Cymru

Amgueddfa Sir Gaerfyrddin