Trawsnewid Trawsfynydd I - Mary Lloyd Jones


Mary Lloyd Jones RCA FLSW g.1934

Un o arlunwyr mwyaf poblogaidd a sefydledig Cymru yw Mary Lloyd Jones. Wedi ei geni ym Mhontarfynach ym 1934, fe hyfforddwyd  yng Ngholeg Celf Caerdydd. Mae wedi ei hysbrydoli gan dirlun Cymru ac yn enwedig y gwneuthuriad dynol sydd ar y tirlun, mae gwaith hunan mynegiannol beiddgar Mary yn nodedig am ei defnydd o liwiau atseiniol a chyfoethog.

Dywed Mary am ei gwaith "Yn fy ngwaith rwyf yn anelu i adlewyrchu fy mherthynas gyda'r tir, fy ymwybyddiaeth o hanes, o drysorau ein llenyddiaeth a thraddodiad llafar. Byddaf yn chwilio am ddyfeisiau i'm galluogi i greu haenau yn fy nelweddau. Mae hyn wedi fy arwain i edrych ar ddechreuad ieithoedd ac ar farciau cynnar dynion ar gerrig, ar yr wyddor Ogham ac ar Goelbren y Beirdd".

Mae hi wedi arddangos yn rheolaidd ers y 1960au yng Nghymru, mewn mannau eraill ym Mhrydain ac yn Rhyngwladol. Roedd yn un o dri artist o Gymru a ddewiswyd i fod yn rhan o arddangosfa a deithiodd i bedair dinas yn China yng ngwanwyn 2009. Cafodd hefyd wahoddiad i gymeryd rhan yng Ngwyl Cymru a'r Smithsonian yn Washington DC yn haf 2009.

Mae Mary yn Gymrawd Anrhydeddus o Goleg y Drindod, Caerfyrddin a Phrifysgol Aberystwyth, a gwobrwywyd hi a Doethuriaeth Anrhydeddus gan Brifysgol Cymru, Caerdydd. Mae Mary wedi ei derbyn yn Gymrawd o Gymdeithas Ddysgedig Cymru. Bu’n gweithio fel artist preswyl am gyfnod yn yr Iwerddon, Yr Alban, Philadelphia, Vermont, India, Yr Eidal, Catalonia a Llydaw.

Casgliadau

Amgueddfa Genedlaethol Cymru

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Cymdeithas Gelfyddyd Gyfoes Cymru

Cyngor Celfyddydau Cymru

Cyngor Clwyd

Casgliad Celf y Llywodraeth

Derek Williams Trust

Oriel Ynys Mon

Amgueddfa & Oriel Crawford, Cork, Iwerddon

Prifysgol Keele

Prifysgol Cymru Llanbed

Coleg Alquin, Prifysgol York

Coleg Normal Bangor

Canolfan Gelf Wrexham

Cyngor Dyfed

Canolfan Tyrone Guthrie, Iwerddon

BBC Cymru

Cyngor Ceredigion

S4C

Coleg Green Mountain, Vermont, UDA

Canolfan Fasnach y Byd, Caerdydd

Casgliad Cite Di Adria

Preswylfa Llysgenad Prydain, Y Cenhedloedd Unedig, Efrog Newydd

Casgliad Sefydliad Smithsonian, Washington DC

Casgliadau Preifat ledled y byd