La Concierge - Gwen John


Gwen John (1876 - 1939)

Mae Gwen John yn cael ei hystyried fel artist pwysicaf Cymru yn yr 20fed ganrif. Fe'i ganed yn Hwlffordd, chwaer hŷn Augustus John, a chafodd ei hyfforddi yn Ysgol y Slade yn Llundain, ac wedyn yn Ysgol Whistler ym Mharis. Bu'n byw yn Ffrainc am weddill ei hoes.

Mae llai na dau gant o’i phaentiadau mewn bodolaeth. Roedd yn enwog am ailadrodd ei chyfansoddiadau a chyfyngu amrediad ei phynciau, gan gynhyrchu paentiadau tawel, tebyg eu lliwiau oedd yn hynod o hardd ac yn dangos dwyster emosiynol. Mae ei henw da wedi parhau i dyfu fel rhagwelodd ei brawd, Augustus John: 'Hanner can mlynedd ar ôl fy marwolaeth, byddaf yn cael fy nghofio fel brawd Gwen John'.