Early Morning, Waunfawr - Darren Hughes


Darren Hughes RCA g.1970

Wedi’i eni ym Mangor, Gogledd Cymru yn 1970, mae Darren Hughes yn prysur sefydlu’i hun yn un o sêr byd peintio Cymru. O ganlyniad i gyfres o arddangosfeydd llwyddiannus, gwahoddwyd Darren gan Syr Kyffin Williams i arddangos ei waith ochr yn ochr â’i waith ei hun yn ei sioe ddiweddaraf yn Llundain. Gwerthwyd gwaith Darren o'r arddangosfa i gyd ac roedd yn llwyddiant enfawr. Dilynwyd hyn gyda sawl sioe lwyddiannus yn Oriel Martin Tinney Gaerdydd yn 2006, 2008 a 2010 gyda'r gwaith yn gwerthu i gyd.

Dywed Darren am ei waith:"Mae fy ngwaith wedi’u seilio ar y tirlun o amgylch fy nghartref; maent yn cynnwys ac yn adlewyrchu cip ar fy mhrofiad o’r tirlun a fy nod yw dangos llymder y foment, eu gwneud yn barhaol, a rhywsut, ceisio deall eu pwysigrwydd".

Talai Syr Kyffin Williams deyrnged iddo:

'Mae gwaith Darren yn wahanol i’r rhan helaethaf o’i gyfoeswyr oherwydd ymddangosai mewn cariad  gyda’r hyn y mae’n peintio. Mae’n caru’r dirwedd o amgylch ei gartref, mae’n caru’r tai, y mynyddoedd, y giatiau, y waliau carreg a’r ffens llechi. O ganlyniad, mae’n gallu trosglwyddo a mynegi’r cariad yna trwy ei waith i eraill. Y mae hefyd yn artist talentog iawn, dylem ymfalchïo ynddo.’

Casgliadau a Gwobrau

2002    Enillydd Gwobr Ranbarthol, 'The Discerning Eye', Mall Galleries, Llundain.

2001    Artist Ifanc Cymreig y Flwyddyn - Young Wales 5, Academi Frenhinol Gymreig

2001    Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.

 Catalog Arddangosfa - Mai 2015