Four Men Chatting - Josef Herman


Josef Herman OBE RA (1911 - 2000)

Ganwyd Josef Herman yn Warsaw yn 1911. Dechreuodd eo daith fel ffoadur am gyfnod byr yng Ngwlad Belg a Ffrainc cyn cyrraedd Prydain, yn gyntaf i Glasgow yn 1940, ac yna yn 1944 i Ystradgynlais yn Ne Cymru, lle bu’n byw ac yn gweithio tan 1955. Yma adeiladodd enw dros ei hun, gyda pheintiadau o lowyr Cymreig fel symbol o'r gweithiwr. Roedd y darlun o'r gweithiwr nodweddiadol yn dempled ar gyfer ei holl ddarluniau a pheintiadau dilynol o ffermwyr, pysgotwyr a gwerinwyr.

Enillodd fedal Aur Celfyddyd Gain yn Eisteddfod Genedlaethol 1962, cafodd ddyfarniad OBE yn 1981 a chafodd ei wneud yn aelod o’r Academi Frenhinol yn 1990.

Teithiodd ac arddangosodd yn eang ac mae ei waith i’w weld mewn sawl amgueddfa enwog ar draws y byd.

Pan fu farw Josef Herman yn 2000, yr oedd wedi sefydlu ei hun fel un o ffigyrau pwysig Celf Brydeinig yr 20fed ganrif ac roedd yn ddylanwad mawr ar genhedlaeth gyfan o artistiaid yn benodol artistiaid Cymreig.