Snowdon / Yr Wyddfa and Llyn Glas from Crib Goch - Peter Moore


Peter Moore g.1951

Ganwyd Peter Moore yn 1951. Bu'n astudio Celfyddyd Gain ym Mhrifysgol Newcastle yn 1976 ac yna bu'n cadw siop gelf yn Rhydychen tan 1978 pan adawodd i ddysgu Saesneg a Chelf yn y Swdan. Mae hefyd wedi bod yn byw â'r bobl Nuba, lle bu’n braslunio llawer o'u dyluniadau mewn pensaernïaeth, celfi a chelf-corff.

Dychwelodd Peter i Brydain yn 1980 a chwblhaodd Gradd Ôl-radd ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yna symudodd i Ogledd Cymru lle mae'n byw heddiw. Mae Peter wedi gweithio fel tiwtor ers 1981 ac mae wedi arddangos ledled Gogledd Cymru; enillodd gystadleuaeth peintio Parc Cenedlaethol Eryri a chyrhaeddodd rownd derfynol Artist Cymreig y Flwyddyn Caerdydd yn 2008.