Donald McIntyre (1923 - 2009)
Ganwyd Donald McIntyre yn Leeds ym 1923 i rieni o’r Alban, a threuliodd ei blentyndod yng ngorllewin yr Alban. Astudiodd o dan James Wright RSW gan ddatblygu ei balet traddodiadol yn Garelochhead. Cymhwysodd fel deintydd yng Nglasgow, a bu'n gwasanaethu yn y fyddin ac yna i wasanaethau ysgolion. Yn y 1940au hwyr symudodd i Ogledd Cymru, ac yn 40 oed gadawodd deintyddiaeth i wneud bywoliaeth fel arluniwr llawn amser. Roedd yn aelod o Gymdeithas Pastel, Sefydliad Peintwyr Brenhinol mewn Dyfrlliw, Cymdeithas Frenhinol Artistiaid y Môr a'r Academi Frenhinol Gymreig.
Bu'n arddangos yn eang yn Llundain, yr Alban, Cymru ac Ewrop ac mae ei waith i'w weld mewn nifer o gasgliadau cyhoeddus a phreifat gan gynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Oriel Gelf Casnewydd, Cyngor Celfyddydau Cymru, Cymdeithas Celfyddydau Cyfoes Cymru ac Amgueddfa ac Oriel Gelf Kirkaldy.
Bu fawr yn 2009.