George Chapman (1908 - 1993)

Ganwyd George Chapman yn Llundain ac fe hyfforddwyd yn y Ysgol Gelf y Slade ac yng Ngholeg Celf Frenhinol, Llundain.  Roedd ei ddylanwadau cynnar yn cynnwys Sickert ac  Ysgol Euston Road.  Fodd bynnag, creodd ymweliad i'r Rhondda yn 1953 argraff fawr arno a thrawsnewidiodd ei weledigaeth fel artist.  Enillodd ei beintiadau diwydiannol o gymoedd de Cymru lwyddiant beirniadol a masnachol enfawr, gydag arddangosfeydd yn gwerthu allan yn Llundain yn y 1950au hwyr a'r 1960au cynnar.  Enillodd y Fedal Aur yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1957.  Ymgartrefodd yn Aberaeron, Ceredigion yn 1964.

O ddiwedd y 1960au hyd at y 1990au cynnar, fe ystyriwyd gwaith Chapman braidd yn anffasiynol, a dim ond ar ôl ei farwolaeth yn 1993 cafodd ei enw da adfywiad mawr.  Mae ei beintiadau o'r Rhondda yn cael eu hystyried yn awr fel cofnod pwysig o dirwedd ddiwydiannol a'r gymuned sydd nawr wedi diflannu.

Casgliadau

 

Oriel Gelf Dinas Bradford

Oriel Gelf Brunswick, Canada

Coleg Clare, Caergrawnt

Coleg Sidney Sussex, Caergrawnt

King’s College, Caergrawnt

Amgueddfa Ceredigion, Aberystwyth

Cymdeithas Celf Cyfoes Cymru

Cyngor Sir Essex

Cymdeithas Oriel Fry, Saffron Walden

Oriel Glynn Vivian, Abertawe

Cyngor Llundain

Cyngor Sir Hampshire

Oriel Gelf Herbert, Coventry

Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth

Amgueddfa Cenedlaethol Cymru, Caerdydd

Coleg St. Anne, Rhydychen

Coleg Corpus Christi, Rhydychen

Cyngor Sir Rhydychen

Oriel Gelf Stockport

Prifysgol Cymru, Aberystwyth

Amgueddfa Victoria ac Albert, Llundain

Cyngor Celfyddydau Cymru

Oriel Gelf Whitworth, Manceinion