Red Baroque Wig - John Macfarlane

Arddangosfa Bresennol

John Macfarlane - Gwaith Newydd

2 Awst 2012 - 25 Awst 2012

?>
  • Red Baroque Wig
  • ?>
  • A Servant, Rake's Progress
  • ?>
  • Maid, Elektra
  • ?>
  • Klytemnestra, Elektra
  • ?>
  • The Auctioneer's Assistant, Rake's Progress
  • ?>
  • The Keeper of the Brothel, Mother Goose, Rake's Progress
  • ?>
  • The Backcloth, Rake's Progress
  • ?>
  • Servants Model III, Elektra
  • ?>
  • Sellem, Rake's Progress
  • ?>
  • The Night Garden
  • ?>
  • The Confidant, Elektra
  • ?>
  • Aegistheus' Retinue, Elektra
  • ?>
  • Knives
  • ?>
  • Street Woman, Rake's Progress
  • ?>
  • Klytemnestra's Retinue and Train Bearer, Elektra
  • ?>
  • A Harlot, Rake's Progress
  • ?>
  • Overseer, Elektra
  • ?>
  • Harlots, Brothel Scene, Act I, Rake's Progress
  • ?>
  • Chorus Boy
  • ?>
  • Women Servants, Elektra
  • ?>
  • The Old Servant, Elektra
  • ?>
  • Brown Dish
  • ?>
  • Male Servants, Elektra
  • ?>
  • The Tutor, Elektra
  • ?>
  • Front Curtain, Rake's Progress
  • ?>
  • Klytemnestra Head Detail From Elektra
  • Ganwyd John Macfarlane yng Nglasgow ym 1948 ac addysgwyd yn Ysgol Gelf Glasgow. Y mae wedi byw a gweithio yng Nghymru ers 1975.  Cyd-reda dwy yrfa – fel artist ac fel cynllunydd theatr ac y mae’n cael ei gydnabod fel un o arweinwyr y byd cynllunio theatr opera a bale, wedi iddo weithio i nifer helaeth o brif  gwmnïau opera a bale y byd. 

    Mae’r arddangosfa ddiweddaraf hon yn cynnwys darluniau a pheintiadau o wisgoedd o gynyrchiad ‘Rake’s Progress’, gan Opera Albanaidd a fu ar y llwyfan yng Nglasgow a Chaeredin yn ystod mis Mawrth 2012. Roedd y cynhyrchiad yn datguddio budreddi a llymder bywyd yn Llundain yn ystod y 18fed ganrif. Mae’r delweddau yn dywyll ac eto’n gyfoethog – yn adlewyrchu breuder natur ddynol. O fewn yr arddangosfa mae hefyd casgliad o astudiaethau o opera bwerus ‘Elektra’ a fydd ar lwyfan yn Chicago yn ystod mis Hydref 2012. 

    Yn ychwanegol i’r ddau gynhyrchiad, mae ei gynlluniau diweddaraf yn cynnwys; 'Maria Stuarda',Opera Metropolitan, Efrog Newydd; 'La Baiser de la Fée', Bale Brenhinol Birmingham; 'L’Heure Espagnole & Gianni Schicchi','Peter Grimes', 'Lady Macbeth of Mtsensk' a 'The Magic Flute': i gyd yn y Ty Opera Brenhinol, Covent Garden; 'Idomeneo' yn y Opera Wladwriaeth Fienna, 'Don Giovanni' a 'The Fiery Angel' i Frwsel a 'Euryanthe' yn Glyndebourne. Cynhwysa gynyrchiadau eraill operau 'War and Peace' ar gyfer Opera Paris, 'Boris Godunov' yn Amsterdam, 'Falstaff' yn Florence, a 'The Queen of Spades', Opera Cenedlaethol Cymru, a 'Hansel and Gretel' ar gyfer Opera Cenedlaethol Cymru a’r Opera Metropolitan, Efrog Newydd. Drwy arddangos ledled Ewrop, y mae John wedi dod yn artist/cynllunydd cyfoes werth ei gasglu. Y mae ei waith yn rhan o sawl casgliad cyhoeddus gan gynnwys Amgueddfa Genedlaethol Cymru, y V&A, Llundain, Yr Albertina Fienna, Amgueddfa Huntarian, Glasgow, archif de L’Opera, Paris a chasgliad y TÅ· Opera Metropolitan.

    Mae’r holl waith ar werth.

    Oriau Agor

    Llun-Gwener, 10:00-18:00

    Sadwrn, 10:00-17:00

    Suliau a Gwyliau Banc, ar gau

    Grwpiau trwy apwyntiad yn unig os gwelwch yn dda