The Polish Mazurka, Act III, Swan Lake - John Macfarlane

Arddangosfa Bresennol

John Macfarlane - Swan Lake a Gwaith Arall

21 Mawrth 2019 - 11 Ebrill 2019

Ganwyd John Macfarlane yng Nglasgow yn 1948 ac mae wedi byw a gweithio yng Nghymru ers 1975. Hon yw ei unfed sioe unigol ar ddeg yn Oriel Martin Tinney ers iddo arddangos yn yr oriel ym 1995.

Astudiodd John yn Ysgol Gelf Glasgow ac mae’n dilyn gyrfaoedd cyfochrog yn y theatr, drwy arlunio ac fel gwneuthurwr printiau.

Mae ei ddyluniadau ar gyfer operâu yn cynnwys Peter Grimes, Die Zauberflöte, Lady Macbeth of Mtsensk, Duke Bluebeard’s Castle/Erwartung a L’Heure espagnole/Gianni Schicchi (yr Opera Brenhinol), Hansel and Gretel (Opera Cenedlaethol Cymru a’r Opera Metropolitan, Efrog Newydd), The Queen of Spades (Opera Cenedlaethol Cymru), War and Peace (Opéra Bastille), La Clemenza di Tito (Paris Opéra), Agrippina (La Monnaie, Brwsel), The Trojans (Opera Cenedlaethol Lloegr), Don Giovanni (La Monnaie, San Francisco), Idomeneo (Vienna), Elektra a Rusalka (Chicago), The Rake’s Progress (Opera’r Alban) and Maria Stuarda (Opera Metropolitan). Mae ei ddyluniadau opera diweddaraf ar gyfer Tosca, ynghyd a Flying Dutchman ac Agrippina (i gyd ar gyfer Opera Metropolitan, Efrog Newydd). Mae ei ddyluniadau dawns yn cynnwys La Ronde Tetley a Frankenstein, Asphodel Meadows, Sweet Violets a The Age of Anxiety Scarlett (y Bale Brenhinol), Hummingbird (Bale San Francisco) a The Nutcracker, Le Baiser de la fée a Cinderella (Bale Brenhinol Birmingham). 

Yn 2015, enillodd wobr lawryfog y Benois de la Danse. Mae’n Chevalier de l’Ordre des Arts et des Lettres ac yn feirniad Gwobr Linbury.

Ei ddyluniadau ballet diweddaraf yw setiau a gwisgoedd i Swan Lake 2018 (y Ballet Brenhinol) yn y Tŷ Opera Brenhinol, Llundain ac mae'r arddangosfa hon yn cynnwys arluniadau gneuwyd ar gyfer y cynhyrchiad llwyddiannus hwnnw. Yn ogystal, bydd nifer o beintiadau olew hynod wedi eu selio ar Swan Lake a chynyrchiadau eraill y mae John wedi bod yng nghlwm a hwy yn ddiweddar. Mae oddeutu 30 o ddarnau o’i waith i’w gweld ac maent i gyd ar werth.

Oriau Agor

Llun-Iau 10:00 -18:00

Amseroedd eraill trwy apwyntiad.

 

 

Facebook follow me on instagram follow me on twitter