Altar - John Macfarlane

Arddangosfa Bresennol

John Macfarlane 'TOSCA' , Metropolitan Opera, New York

7 Mehefin 2018 - 28 Mehefin 2018

Ganwyd John Macfarlane yng Nglasgow yn 1948 ac addysgwyd ef yn Ysgol Gelf Glasgow. Mae wedi byw a gweithio yng Nghymru ers 1975.

Mae John wedi dilyn gyrfaoedd cyfochrog, fel artist ac fel cynllunydd theatr, ac mae’n cael ei ystyried yn un o ddylunwyr mwyaf blaenllaw'r byd ar gyfer opera a bale. Yn ystod y degawd olaf, mae wedi gweithio ar Cinderella, Bale Brenhinol Birmingham; The Rake's Progress, Opera'r Alban; Maria Stuarda, Opera Metropolitan, Efrog Newydd; Elektra, Opera Lyric, Chicago; La Baiser de la Fée, Bale Brenhinol Birmingham; L’ Heure Espagnole & Gianni Schicchi, Peter Grimes, Lady Macbeth of Mtsensk, The Magic Flute a Frankenstein - i gyd yn y Tŷ Opera Brenhinol, Covent Garden; Idomeneo yn y State Opera, Vienna; Don Giovanni a The Fiery Angel ar gyfer Brwsel, a Euryanthe yn Glyndebourne. Mae cynyrchiadau eraill yn cynnwys War and Peace ar gyfer Opera Paris; Boris Godunov yn Amsterdam; Falstaff yn Fflorens; The Queen of Spades ar gyfer Opera Cenedlaethol Cymru, a Hansel and Gretel i Opera Cenedlaethol Cymru ac Opera Metropolitan, Efrog Newydd.   

Drwy arddangos ei baentiadau a’i luniau dylunio ledled Ewrop, mae John wedi dod yn un o'r artistiaid/dylunwyr cyfoes mwyaf casgladwy. Mae ei waith i’w weld mewn nifer o gasgliadau cyhoeddus o fri gan gynnwys Amgueddfa Cymru; y V & A yn Llundain; yr Albertina yn Vienna; Amgueddfa Hunterian yng Nglasgow; Archifdy L’Opera, Paris a Chasgliad y Tŷ Opera Metropolitan.

Bydd yr arddangosfa hon yn cynnwys darluniau cynllunio o'r set a'r gwisgoedd ar gyfer cynhyrchiad 2018 o Tosca Puccini yn yr Opera Metropolitan yn Efrog Newydd. Dechreuodd John weithio ar y cynhyrchiad drwy dreulio amser yn Rhufain yn ymchwilio ac arlunio lleoliadau’r opera, megis eglwys Sant’Andrea della Valle a tho Castel Sant’Angelo. Bydd y darluniau o’r ymweliad hwnnw i’w gweld fel rhan o’r arddangosfa.

Mae 29 o ddarnau o waith ac maent i gyd ar werth.      

Oriau Agor

Llun-Iau 10:00 -18:00

Amseroedd eraill trwy apwyntiad.

Grwpiau trwy apwyntiad yn unig os gwelwch yn dda.

Suliau a Gwyliau Banc, ar gau.

Am oriau agor dros y Nadolig ar Pasg, ffoniwch yr oriel.

 

Facebook follow me on instagram follow me on twitter