Stop Motion - Oliver Gaiger

Arddangosfa Bresennol

Oliver Gaiger - Paentiadau Newydd

1 Chwefror 2018 - 24 Chwefror 2018

Ganwyd Oliver Gaiger ym 1972 yn Uganda ac fe'i magwyd yn Sudan, Papua Gini Newydd, Vanuatu, Ynysoedd y Falkland a Chernyw. Mae wedi byw ymysg Mynyddoedd Cambria ger Aberteifi ers deuddeg mlynedd bellach.

Mae diwylliannau a thirweddau'r lleoliadau amrywiol wedi parhau i ddylanwadu ar ei waith ac mae hefyd wedi cael ei ysbrydoli gan arwyddion, symbolau a phatrymau a welir yn yr amgylchedd naturiol a‘r rhai a wnaed gan ddyn.

Cafodd ei hudo gan gelf Affricanaidd a gwledydd y Cefnfor Tawel Deheuol, lle treuliodd ei blentyndod ac mae ei waith hefyd yn dangos tebygrwydd amlwg i artistiaid fel William Scott, Patrick Heron a’r cerflunydd Alexander Calder.

Hon yw ail arddangosfa Oliver yn Oriel Martin Tinney ac mae ei edmygwyr cynyddol yn disgwyl yn eiddgar amdani. Bydd oddeutu 30 o ddarnau o waith newydd yn cael eu harddangos ac mae’r Cynllun Casglu ar gael.

Oriau Agor

Llun-Gwener, 10:00-18:00

Sadwrn, 10:00-17:00

Suliau a Gwyliau Banc, ar gau

Grwpiau trwy apwyntiad yn unig os gwelwch yn dda

Am oriau agor dros y Nadolig a'r Pasg, ffoniwch yr oriel

 

Facebook follow me on instagram follow me on twitter