Damp Evening, Nant Ffrancon Valley - Peter Prendergast RCA

Arddangosfa Bresennol

Peter Prendergast

12 Hydref 2017 - 4 Tachwedd 2017

Peter Prendergast oedd un o beintwyr tirluniau argraffiadol blaenaf Prydain. Wedi ei ysbrydoli gan amgylchedd ei gartref yn Eryri, mae ei beintiadau mynegiannol yn nodweddiadol am eu grym a’i egni.  

Ganwyd Peter yn Abertridwr, De Cymru ym 1946. Hyfforddwyd yng Ngholeg Celf Caerdydd ac Ysgol Gelf Slade, o dan yr athro Frank Auerbach. Bu Peter byw a gweithio ger Bangor, Gogledd Cymru o 1970 hyd at ei farwolaeth yn 2007. Roedd Prendergast yn falch iawn o’i dreftadaeth Gymreig, ac eto tra bod ei ymrwymiad i Gymru a’i olygfeydd ysblennydd yn amlwg, mae apêl ei waith yn ymestyn y tu hwnt i’r Dywysogaeth. Bu’n arddangos yn eang ym Mhrydain a thramor, mae ei boblogrwydd yn ymestyn i’r Unol Daleithiau ac Awstralia, ac mae ei waith yn cael ei gynrychioli mewn nifer o gasgliadau preifat a chyhoeddus gan gynnwys Oriel y Tate, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Stadts Galerie , Stuttgart, Yr Amgueddfa Brydeinig a Casgliad Cyngor y Celfyddydau.  

Mae’r arddangosfa yn cynnwys oddeutu tri deg o ddarluniau yn dyddio o 1971 i 2005, y rhan fwyaf ohonynt heb eu harddangos o’r blaen. Mae’n coffáu 10 mlynedd ers ei farwolaeth yn 2007 yn 60 oed.

Mae’r gwaith i gyd ar werth.

Oriau Agor

Llun-Gwener, 10:00-18:00

Sadwrn, 10:00-17:00

Suliau a Gwyliau Banc, ar gau

Grwpiau trwy apwyntiad yn unig os gwelwch yn dda

Am oriau agor dros y Nadolig a'r Pasg, ffoniwch yr oriel

 

Facebook follow me on instagram follow me on twitter