Brenda Chamberlain (1912 - 1971)

Ganwyd Brenda Chamberlain ym Mangor yn 1912,  yn chwech oed penderfynodd fod yn arlunydd ac yn awdures.  Tra yn Ysgolion yr Academi Frenhinol fe gyfarfu ac yn ddiweddarach priododd ei chyd-fyfyriwr John Petts.  Ar ôl symud i Ogledd Cymru, sefydlodd y ddau'r Wasg Caseg, gan gynhyrchu gyda’r bardd Alun Lewis cyfres o law argraffiad (Broadsheets) o gerddi ac ysgythriadau, hefyd cardiau cyfarch, priodas a Nadolig yn seiliedig ar themâu crefyddol. Gwahanodd y ddau yn 1943.

Fel ei phrif ddylanwad artistig, Paul Gauguin, dewisodd dreulio amser helaeth o weddill ei bywyd ar ei phen ei hun. Treuliodd pymtheg mlynedd ar Ynys Enlli, Gogledd Cymru, lle bu’n peintio bywyd dyddiol yr ynys.  Enillodd y Fedal Aur yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru dwywaith ac roedd yn arddangos yn rheolaidd yn Oriel Gimpel Fils, Llundain.

Yn 1962 symudodd i Ynys Hydra, Groeg lle bu rhyddid newydd ac awch ar ei gwaith.  Roedd hi'n cyfuno barddoniaeth a delweddau, gwneud lluniau o nodiannau cerddoriaeth a hefyd ysgrifennodd ddrama.  Trwy gydol ei bywyd cyhoeddodd nifer o lyfrau barddoniaeth a rhyddiaith.  Yn 1969 cyhoeddwyd 'Poems and Drawings’ a oedd yn cyfuno ei gwaith ysgrifenedig a'i lluniau.

Wedi symud yn ol i Ogledd Cymru ym 1969 daeth ei gwaith i adlewyrchu ei chyflwr meddyliol; isel ei hysbryd ac yn teimlo anobaith llwyr, bu farw yn 1971.