Ann Lewis g.1962

Ganed Ann yn Llanelwy, Sir Dinbych yn 1962, astudiodd yng Ngholeg Celf, Bangor ac yna yng Ngholeg Celf a Dylunio, Caerwysg. Ar ôl ennill Gradd Anrhydedd mewn Dylunio Graffeg yng Nghaerwysg yn 1988, dychwelodd Ann i Gymru i ddechrau gweithio fel dylunydd llawrydd a darlunydd.

Dechreuodd yr esblygiad graddol o ddylunydd i arlunydd gelf gain yn 1993 pan gafodd Ann ei hethol yn aelod o'r Academi Frenhinol Gymreig. Ers mis Mawrth 2009, bu Ann yn gweithio'n llawn amser fel arlunydd / argraffydd, sy'n gweithio yn null ’reduction’ o dorri leino. Mae hi’n arbenigo mewn cynhyrchu rhifynnau bychain o brintiau gwreiddiol wedi eu creu a llaw yn ei stiwdio yn edrych allan dros Ddyffryn Ogwen.

Mae gwaith Ann wedi ei arddangos mewn nifer o orielau ledled Cymru ac mae ganddi waith yng nghasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ogystal â Chasgliad Celf y Llywodraeth.