Sigrid Muller g.1962

Ganwyd Sigrid Muller yn yr Almaen yn 1962, ac yn 1996 fe ymgartrefodd yn Abertawe. Mae ei phaentiadau cain wedi denu dilyniant mawr ac mae ei gwaith i weld mewn nifer o gasgliadau gan gynnwys Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Mae ei lluniau yn cael eu gwneud gyda haen ar ben haen o phensil creon ar gefndir o ddyfrlliw. Mae'n broses manwl a all gymryd sawl wythnos o'r brasluniau cychwynnol i'r darlun gorffenedig.

Dywed Sigrid am ei gwaith:

Pan fyddaf yn braslunio, rwyf yn ceisio cyfieithu yr hyn a welaf i sut y mae'n teimlo i gyffwrdd. Mae'n broses emosiynol, rhywbeth sy'n cyseinio, cynddeiriogi'r atgofion, yn aml o fy mhlentyndod pan nad oedd barn yn dod gerbron gwrthrychau dim ond profi ac arsylwi yn drylwyr.  Mae'r cefndir yr un mor bwysig â'r pwnc eu hun. Mae'n darparu man dychmygol lle y maent yn byw - atal dros dro, heb ddim i ddal gafael ar, neu sydd eisoes yn bodoli ar dir sy'n ymddangos yn gadarn.  Byddaf yn dewis yn reddfol, nid chwilio, ond cael hyd i, cael fy nenu gan yr addewid mewn blagur manwl yr iris, y gribell sycho y pabi, neu aeddfedrwydd meddal yr eirin.