Keith Andrew g.1947

Ganwyd Keith Andrew  yn Llundain ym 1947.  Astudiodd yn Ysgol Gelf Beckenham a Coleg Celf a Dylunio Ravensbourne. Bu'n gweithio yn Llundain fel arlunydd graffig cyn troi i baentio llawn amser ym 1975.  Roedd hyn yn cyd-daro a symyd i Ynys Môn.

Dyfyniad o gyflwyniad i sioe unigol, a ysgrifennwyd gan y diweddar Syr Kyffin Williams OBE, RA:

Mae Keith Andrew yn cael ei ddylanwadu gan y pethau syml; y nant gul, y ffenestr wedi'i thorri, y growt o dô hynafol neu gan y cen ar wal yr ynys. Mae ei lygad treiddgar yn dewis yr hyn nad yw y rhan fwyaf o bobl yn sylwi, ond unwaith y mae wedi eu gwneud yn ymwybodol, maent yn gwerthfawrogi'r hyn nad oeddent yn eu gweld, ac yn prynu ei luniau. Nid yr unig ffynhonnell o ysbrydoliaeth yw'r ynys llawn dirgelwch; o'i gartref y mae’n gallu gweld y mynyddoedd yn y pellter ac yn aml y mae’n gweithio yn eu plith. Yn dawel, llawn egni ac yn benderfynol, mae Keith Andrew bellach yn cael ei ystyried yn lleol fel ffigwr diwylliannol pwysig ac rydym ni, a aned ar yr ynys yn ddiolchgar iddo ac yn gobeithio y bydd yn aros gyda ni, yn cofnodi Cymru, sydd mewn perygl parhaus o'r awydd dynol i lygru a halogi ein hetifeddiaeth. Mae Keith Andrew yn cofnodi ein gorffennol ac ein presennol ac wrth wneud hynny, y mae'n ein rhybuddio y gallai’r cyfan gael ei golli drwy ein difaterwch.

Mae Keith wedi arddangos yn helaeth ar draws Cymru, ac hefyd wedi arddangos yn Llundain ac Ewrop. Daeth yn aelod o'r Academi Frenhinol Gymreig yn 1981.

Casgliadau

Cymdeithas Celfyddyd Gyfoes Cymru.

Cyngor Bwrdeistref Ynys Mon Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Prifysgol Cymru Abertawe

Llyfrgell Sir Gorllewin Morgannwg

Coleg Brenhinol y Llawfeddygon Cyfadran yr Anesthetyddion

Casgliad Argraffu Prifysgol Cymru Aberystwyth.

Amoco

Gypswm Prydeinig

Bwrdd Marchnata Llaeth

Texaco

Sheik Surror Abu Dhabi

Sefydliad Laura Ashley

 

Catalog Medi 2014