Meri Wells g.1946

Ganwyd Meri Wells ym 1946, ac astudiodd Celf yn Ysgol Celf Sutton ac Epsom, cyn symud i Aberystwyth i astudio Celf a Drama. Ymgartrefodd ger Machynlleth yn y canolbarth, lle mae’n byw ac yn gweithio hyd heddiw.

Cerflunydd cerameg yw Meri, sy’n defnyddio prosesau tanio raku a tan. Mae hi’n creu cerfluniau ffigurol gan ddefnyddio clai, ac ychydig ohono'n glai a ganfuwyd yn lleol. Mae'r creaduriaid - yn rhan ddynol, rhan anifail neu aderyn, yn ymddangos yn arallfydol, ac eto mae pob un yn awgrymu emosiynau a thensiwn sy'n gorwedd dan arwyneb pob perthynas ddynol. Dywed am ei ffigyrau; "Daw'r ffigyrau cerameg bach allan o'r gwrych gallaf ei weld drwy'r ffenestr. Maent yn gorymdeithio, gan adnewyddu delweddau a storiâu a anghofiwyd, o blentyndod a chwedlau ein diwylliant".  

Mae Meri yn artist cerameg sefydledig a dylanwadol dros ben. Mae hi’n Gynghorydd Cenedlaethol i Gyngor Celfyddydau Cymru, ac fe'i hetholwyd i Yr Academi Frenhinol Gymreig a'r Academi Cerameg Genedlaethol yn 2007.

Casgliadau

Oriel ac Amgueddfa Neuadd Townley, Burnley

Casgliad Uneb yr Artist, Latvia

Asiantaeth Tsiec o Ddylunio Cerameg, Y Weriniaeth Tsiec

Oriel ac Amgueddfa Gelf y Ddinas, Panevezys, Lithuania

Stiwdio Cerameg Rhyngwladol, Kecskemet, Hwngari

Casgliad Saltzbrand, Coblenz, Yr Almaen

Casgliad Cerameg, Prifysgol Cymru Aberystwyth

Parc Cerfluniaeth Kastiel Pusty Chotar Beladice, Gweriniaeth Slovenska

Casgliad Cyhoeddus Ymddiriedolaeth Tabernacl, Machynlleth

Cagliad Cymdeithas Estonaidd o Gelfyddydau Cerameg, Kohila, Estonia

Amgueddfa Genedlaethol Cymru

Amgueddfa Ceredigion, Aberystwyth

Amgueddfa Grochenwaith Fuping, XiAn, Tseina

Amgueddfa ac Oriel Gelf Dinas Casnewydd, Gwent

Amgueddfa ac Oriel Gelf Frycheiniog

 

Gwobrau

2011 Gwobr Brynu Wakeline, Oriel Glynn Vivian Abertawe

2010 Grant ar gyfer prynu odyn: Cyfle Creu

2009 Gwobr Elizabeth Wait, Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd, Gwent

2008 Grant Teithio Celfyddydau Rhyngwladol Cymru; Cynulliad Academi Rhyngwladol Ceramge XiAn, Tseina

2004 Bwrsari Prosiect Arbennig, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru; Hlobani homestead, Swaziland

2001 Grant Prosiect Arbennig, Cyngor Celfyddydau Cymru; Symposiwm Porslen, Siklos, Hwngari

1996 Grant Prosiect Arbennig, Cyngor Celfyddydau Cymru; Symposiwm Celfyddydau, Latvia

1992 Ysgoloriaeth; Stiwdio Cerameg Rhyngwladol, Kecskemét, Hwngari