Evening Sun, July - William Wilkins


William Wilkins CBE g.1938

Ganwyd William Wilkins ym 1938. Olynai o ochr teulu ei fam o feddygon Myddfai'r oesoedd canol, chwedloniaeth Cymru ac mae'n or-ŵyr y pensaer yr Oriel Genedlaethol yn Llundain. Wedi’i fagu yn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro, addysgwyd yng Ngholeg Celf Abertawe ac yn y Coleg Brenhinol Llundain

Trwy’r 1970au a’r 1980au cafodd gyfres o arddangosfeydd llwyddiannus iawn yn orielau blaenaf Efrog Newydd a Llundain. Ysgrifennwyd amdano gan Hilton Kramer, critig celf y New York Times, o dan y pennawd ‘British Artist Dazzles’ - “There is something both very modest and very courageous in Mr. Wilkins’ art. And something very refreshing, too. Against all the empty-headed injunctions of modern ideology, he dared to be himself, to go his own way. Bravo!

Piontillist yw William - adeilada’r ddelwedd drwy gyfresi o ddotiau bychan o baent, yn arddull Seurat. Araf iawn yw’r broses hon a golyga hyn mai dim ond nifer fach o weithiau a gynhyrchir, ac mae arddangosfeydd un dyn yn brin.

Ni chai William gymaint o amser ag yr hoffai i beintio, oherwydd ei gyfrifoldebau eraill; mae'n gadeirydd sylfaenydd Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru, cyfarwyddwr Gerddi Botanegol Cymru, cyn-gyfarwyddwr yr Ymddiriedolaeth Adfer Aberglasney, a chadeirydd Gwobr yr Artes Mundi.

Casgliadau

Amgueddfa Genedlaethol Cymru

Amgueddfa a Gardd Cerfluniaeth Hirshhorn, Washington DC

Cyngor Celfyddydau Cymru

Prifysgol Cymru, Aberystwyth

Prifysgol Abertawe

Cymdeithas Gelfyddyd Gyfoes Cymru

Casgliadau Breifat Ledled y Byd

Gwobrau

2007       Cymrodoriath Anrhydeddus, Prifysgol Caerdydd

2003       Medal y Canghellor, Prifysgol Morgannwg

2003       Cymrodoriaeth Anrhydeddus, Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd

2003       Dyfarnwyd yn CBE

2002       Cymrodoriath Anrhydeddus, Athrofa Addysg Uwch Abertawe

2001       Cymrodoriaeth Anrhydeddus, Athrofa Frenhinol o Benseiri Prydeinig

2001       Cymrodoriaeth Anrhydeddus, Coleg y Drindod, Caerfyrddin

1993       Cyswllt Ymchwil Anrhydeddus, Prifysgol y Drindod Dewi Sant, Llambed

1993       Etholwyd i Yr Academi Frenhinol Gymreig

1980       Yr Arlunydd Preswyl Rhyngwladol Cyntaf, Sefydliad Artistiaid dros yr Amgylchfyd,

              Delaware Water Gap National Park, New Jersey

1980       Grant Sefydliad Ingram Merrill

1978       Grant Cyngor Celfyddydau Cymru

1975       Etholwyd yn aelod o Grwp 56 Cymru

1971       Bwrsari Cyngor Celfyddydau Cymru