Sarah Thwaites g.1959
Ganwyd Sarah Thwaites ym 1959, ac fe'i hyfforddwyd yn Ysgol Gelf Wimbledon a Goldsmiths' Llundain, Mae hi wedi bod yn byw ac yn gweithio yng Nghymru ers 1987. Mae Sarah wedi cael nifer o arddangosfeydd unigol, ac mae wedi'i chynnwys mewn nifer o sioeau grŵp, gan gynnwys 'The Discerning Eye', yn Orielau'r Mall yn Llundain. Mae'r Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol Cymru, Caerdydd wedi prynu gwaith Sarah yn ddiweddar ar gyfer y casgliad cenedlaethol.
Catalog Arddangosfa - Medi 2014
Catalog Arddangosfa - Hydref 2015