Flowers and Butterflies - Sir Cedric Morris


Sir Cedric Morris (1889 - 1982)

Ganwyd Syr Cedric Morris yn Abertawe. Roedd yn arlunydd hunan-addysgiedig a garddwr awyddus, astudiodd am gyfnod byr ym Mharis. Ar ôl chwarae rhan allweddol yn Arddangosfa Celf Cymru yn y Llyfrgell Genedlaethol ym 1935, cydsefydlodd Morris Ysgol Peintio ac Arlunio Dwyrain Anglia, ysgol gelf ecsentrig i artistiaid proffesiynol ac amatur. Roedd y dulliau dysgu yn rhydd o athrawiaeth. Roedd yn aelod o Grŵp Llundain, ac aeth Morris ymlaen i ddarlithio yn y Coleg Celf Frenhinol yn y 1950au.

Mae Morris yn fwyaf adnabyddus am ei gynrychiolaeth ôl-argraffiadol o flodau, bywyd llonydd, tirluniau a phortreadau mewn lliwiau beiddgar cryf.