Romilly Park - Leslie Moore


Leslie Moore (1913 - 1976)

Ganwyd Leslie Moore yng Nghaerdydd yn 1913, roedd yn artist poblogaidd a cynhyrchiol. Roedd ei destunau yn eang ac yn niferus gan iddo beintio gydag angerdd a mwynhad. Fel y rhan fwyaf o'i genhedlaeth, roedd yn artist rhamantaidd. Roedd gofod a chyseinedd yn elfennau personol o'i arddull bywiog.

Cai ysbrydoliaeth o'r byd o'i amgylch. Yn enwedig mynyddoedd a dyffrynnoedd Morgannwg, wedi iddo ddod i'w adnabod yn dda drwy ei waith fel cynghorwr celf. Roedd yn adnabod y bryniau a'r dyffrynnoedd, yr ardaloedd diwydiannol a'r ardaloedd ffermio ei Sir yn fanwl iawn.

Mae gwaith Leslie yn rhan o gasgliadau'r Amgueddfa Genedlaethol, ac mewn nifer o gasgliadau preifat.