Y Twnel / The Tunnel - Eurfryn Lewis


Eurfryn Lewis g.1976

Yn wreiddiol o Dregaron, astudiodd Eurfryn yng Ngholeg Celf Caerfyrddin, ac yna enillodd ei radd yn Athrofa Celf Prifysgol Caerdydd mewn Celf Gain, gan arbenigo mewn argraffu. Mae Eurfryn nawr yn athro Celf a Dylunio, ac yn bennaeth adran yn Ysgol Gyfun Gwynllyw, Pontypwl ers 2002.

Mae Eurfryn yn defnyddio technegau argraffu amrywiol er mwyn cynhyrchu ei waith, yn ogystal â gweithio gydag olew, golosg ac aml-gyfrwng. Mae ei themâu yn amrywio ond fe ddaw ei ddylanwad yn bennaf o'i dreftadaeth Gymreig gref. Mae'r gwaith yn cynnwys cymeriadau cefn gwlad Cymru, corau meibion a rygbi. Ers 2007 mae Eurfryn wedi cynnal dwy arddangosfa unigol o'i waith yng Ngheredigion.        

Dywed Eurfryn am ei waith: "Rwyf wrth fy modd yn cynhyrchu’r gwaith. Rwy'n gobeithio fod pobl yn gallu teimlo cysylltiad clir rhwng y gwaith a Chymru. Mae'r delweddau yn ddathliad o'r Gymru rwy’n ei weld heddiw ac mae'r delweddau yn tarddu o’m mhrofiadau personol yng nghefn gwlad, ymarferion côr, ac wrth gwrs y meysydd Rygbi!"

Gwobrau:

Enillydd Printiau Rhyngwladol Wrecsam 2011

Casgliadau:

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Casgliad Celf y Llywodraeth

Catalog Arddangosfa - Medi 2015