Salt Estuary Light - Richard Barrett


Richard Barrett g.1963

Ganwyd Richard yng Nghaerdydd ym 1963. Mae nawr yn byw yn Swydd Efrog ond daw llawer o'r ysbrydoliaeth ar gyfer ei waith wrth iddo dreulio amser yn cerdded arfordiroedd Cymru.

Dywed Richard am ei waith: 'Mae fy mheintiadau yn cael eu sbarduno gan yr elfennau, gan ddeinamig cyfnewidiol y golau a sut mae’n animeiddio’r tirwedd. Rwy’n ceisio cyfleu hanfod hyn, prydferthwch pwerus natur a’i gwefr emosiynol.'

Man cychwyn Richard yw cerdded y tirwedd gan fraslunio. Wrth i’r broses o beintio ddechrau, mae elfen reddfol hefyd yn chwarae rhan. Greddf ac atgofion sy’n arwain cyfeiriad y darn, gyda'r paent yn cael ei weithio’n egnïol drwy ei ddefnydd o frwsys, chyllyll paled a chadachau. Mae gweadedd yn rhan anhepgorol o’r broses - y crafu, marcio a'r disgleinio yn aml yn rhan o’r gwaith gorffenedig.

Mae'r morluniau a’r tirweddau sy'n dod i'r amlwg yn fwy awgrymog na disgrifiadol, ac yn gwahodd y gwyliwr i ddod o hyd i'w atgofion a'i ddehongliadau personol ei hun.