Sarah Evans g.1974

Ganwyd Sarah yn Aberdâr yng Nghymoedd De Cymru yn 1974 ac astudiodd yng Ngholeg Celf Abertawe.  Mae hi'n paentio arfordir Cymru a'r mynyddoedd o amgylch ble mae hi'n byw.  Nid yw ei gwaith o angenrheidrwydd yn cynrychioli’r ardal yn hollol gywir , ond mae hi'n anelu at greu delweddau sy'n dwyn ynghyd agweddau gwahanol ar y tirwedd ac ei bod yn ysgogi’r  teimlad o brofiad personol o’r tirwedd yna.