David Grosvenor g.1956

Ganwyd David Grosvenor yn Exeter yn 1956. Aeth ymlaen i astudio Celf Gain a Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Exeter, yn y cyfnod roedd yn gweithiod yn y cyfrwng o baent olew.

Yn 1977 graddiodd gyda gradd B.A. Anrhydedd ac am y 14 mlynedd nesaf, gweithiodd yn y maes dylunio graffeg ac eglureb i sawl asiant yn Llundain. Yn 1991 symudodd David i Wynedd, Gogledd Cymru ble datblygodd ei enw da fel artist proffesiynol llawn amser.

Mae gwaith David o hyd wedi bod yn ffigurol ac mae cynnwys ei waith yn amrywiol; gan gynnwys tirluniau, bywyd llonydd a blodau. Bellach mae  yn gweithio mewn dyfrlliw gymaint ag y mae mewn olew. Efallai, oherwydd bod dyfrlliw yn dechneg anodd ac felly yn her, mae  wedi datblygu ffafriaeth arbennig tuag at y cyfrwng yma.

Ers 1992, mae David wedi cael arddangosfeydd unigol yn flynyddol mewn nifer o orielau yng Nghymru ac yn Ffrainc.

Casgliadau

Ty’r Arglwyddi, San Steffan