Camera Kid - Meirion Ginsberg


Meirion Ginsberg g.1985

Dywed Meirion am ei waith: "Cefais fy ngeni yn1985 a’m magu yng Ngogledd Cymru a fy hyfforddi yng Ngholeg y Celfyddydau Caerdydd.  Dwi wedi ceisio mynd ati i beintio mewn ffordd hollol wahanol i'r tirluniau traddodiadol sy'n nodweddiadol o Gelf Cymru.  Mae fy ngwaith i yn fwy o hunangofiant, a dwi’n defnyddio ffrindiau a theulu ac weithiau rhyw gymysgedd Dadaidd efo dipyn o hiwmor ynddi.  Dwi wedi cael fy nylanwadu gan rychwant eang o beintwyr, o Willem de Kooning i Rembrandt, a dwi’n defnyddio amrywiaeth o ffyrdd i farcio’r cynfas.  Mae hyn yn golygu bod fy ngwaith yn troedio’r ffin rhwng y ffigurol a’r haniaethol.

Yn blentyn, mi gefais fy ysbrydoli gan gartwnau a chomics i gymeryd darlunio o ddifri.  Hefyd mi gefais fy magu mewn teulu o beintwyr a cherddorion.  Yn fuan mi ddaeth darlunio yn bwysig iawn i mi, weithiau’n bwysicach na ffrindiau, ac mi ddysgais yn ifanc sut i fynd ati i wneud marciau ar gynfas.  Yn fy arddegau mi gollais ddiddordeb mewn comics, yn rhannol oherwydd y storiau hurt nad oedd gennyf lawer o ddiddordeb ynddyn nhw beth bynnag.

Yr hyn yr oeddwn yn chwilio amdano mewn peintio oedd sut y rhoddwyd y paent ar y cynfas a sut yr oedd y cynfas yn cael ei farcio, ac mi ddysgais lawer gan gyfres ‘The Great Artists’ yr oedd fy nhad yn tanysgrifio iddo.  Norman Rockwell a Frances Bacon oedd fy hoff beintwyr.  Hyd yn oed heddiw, dwi’n defnyddio elfennau o waith y ddau artist yma yn fy ngwaith, er fy mod yn gwybod llawer mwy ac wedi profi mwy o ddylanwadau ers dyddiau’r trysorau hynny.

Mae hiwmor yn bwysig iawn yn fy ngwaith, ond mae hyn yn cael ei liniaru gan adeiladwaith greddfol fy lluniau.  Dwi’n credu’n gryf mewn peintio byrfyfyr ac mewn mentro, a dwi’n teimlo bod y ddau beth yma yn cryfhau fy syniadau a’m dawn.   Yn y brifysgol mi geisiais symud i ffwrdd oddi wrth y traddodiadol, ond roeddwn bob amser yn dychwelyd ato mewn ffyrdd cynnil.  Mae amrywiaeth yn nodwedd ganolog o’m gwaith i, a dwi’n gobeithio y bydd hynny yn parhau".

 

Solo Exhibitions

2019     Oriel Tegfryn Gallery, Menai Bridge

2016     Martin Tinney Gallery, Cardiff

2015     Oriel Tegfryn Gallery, Menai Bridge

2014     Martin Tinney Gallery, Cardiff

2013     Tegfryn Gallery, Menai Bridge

2010     Llanover Hall, Cardiff

2010     Galeri, Caernarfon

2008     Canary Wharf, Public Space

 

Selected Group Exhibitions

2010-19 Martin Tinney Gallery, Cardiff

2009-14 Art London with Martin Tinney Gallery

2011- 18 Tegfryn Gallery Menai Bridge

2012      Art Hamptons, New York

2012      Agnew’s, London

2011      Martin Tinney Gallery, Cardiff, with Sarah Ball

2010      Gwydr House Project, London

2007      Artist Collective, Caernarfon

2005     Oriel Mostyn, Llandudno

 

Catalog Arddangosfa - Ionawr 2014

Catalog Arddangosfa - Ionawr 2015