Martin Collins g.1941

 

Ganwyd Martin Collins yng Nghaerloyw ym 1941. Ar ôl astudio Celfyddyd Gain yng Ngholeg Celf Swydd Gaerloyw a Choleg Celf Hornsey, Llundain, aeth ymlaen i ddysgu celf a dylunio yng Ngholeg Nottingham. Yn ystod y cyfnod hwn bu'n arddangos yn eang mewn lleoliadau yng Nghanolbarth Lloegr a Gogledd Lloegr, gan gynnwys Neuadd Cartwright, Bradford a Grŵp Midland, Nottingham.

Yng nghanol y 1980au  fe symudodd, gyda'i deulu, i Ddyffryn Conwy yng Ngogledd Cymru, lle mae'n dal i fyw hyd heddiw. Am nifer o flynyddoedd bu'n gweithio ar liwt ei hun yn y maes cyhoeddi, ac mae'n awdur i dros 20 o lyfrau ar gerdded yr arfordir a mynyddoedd yn y DU ac Ewrop.

Dychwelodd Martin yn ôl at ei wreiddiau ac ail-ddechrau peintio llawn amser yn 2002. Mae ei ymgais i adlewyrchu drama a harddwch yr amgylchedd naturiol mewn paent wedi arwain at gorff bywiog o waith, yn seiliedig i rannau helaeth ar dirwedd Gogledd Cymru. Mae ei waith mewn llawer o gasgliadau preifat ledled y DU, Ewrop a'r Unol Daleithiau ac ers iddo arddangos gydag Oriel Martin Tinney ac Oriel Tegfryn mae eisoes wedi profi i fod yn un o'n hartistiaid mwyaf poblogaidd, mae gofyn mawr am ei baentiadau atmosfferig gan y rhai sy'n hoff o fannau gwyllt a naturiol.

Dywed am ei  waith: 'Daw ysbrydoliaeth o gipolwg, atgof byw, neu gall dyfu o rywbeth sy’n gyfarwydd â’r pwnc, ond beth bynnag yw’r sbardun, mae datblygu'r syniad i beintiad gorffenedig yn medru bod yn broses anodd. Nid oes unrhyw fformiwla ar gyfer llwyddiant, mae’n bwysig bod pob peintiad yn ffres ac yn fywiog ac eto’n sensitif i’r cyfrwng a ddefnyddir. Y gorau y gall unrhyw artist obeithio yw cyfathrebu trwy ei gyfrwng, rhywbeth o'r gwreiddiol, gweledigaeth unigryw a daniodd y broses yn y man cychwyn.'

Catalog Arddangosfa - Chwefror 2014

Catalogue Arddangosfa - Mai 2015