Beating on Clouds - Dick Chappell


Dick Chappell g.1954

 

Ganwyd Dick yn Ardal y Peak, Swydd Derby ym 1954 ac astudiodd beintio yng Ngholeg Celf Goldsmith yn Llundain. Wedi iddo ymgartrefu yn Nyffryn Clydach ym 1988, newidiodd testunau ei waith yn sylweddol. Mae gan yr ardal hon, fel Swydd Derby, dirwedd wladaidd ac ôl-ddiwydiannol gyfoethog sydd wedi, gydag arfordir De-orllewin Lloegr a Chymru, rhoddi cyfeiriad allweddol i ddatblygiad ei beintiadau.

Yn ogystal â chynnal stiwdio broffesiynol ac arddangos yn rheolaidd yn ystod y pedwar degawd diwethaf, dilynodd sawl gyrfa hefyd, yn wreiddiol ym myd cadwraeth yn yr Amgueddfa Genedlaethol ac wedyn yn addysgu theori celf a’i roi ar waith. Mae nawr yn cynnal stiwdio lawn-amser sydd â golygfeydd o’r Mynydd Du, Brycheiniog. Mae ei waith yn gynrychiolaeth o le ac amser tra hefyd yn cynnwys manylion amwys sydd yn creu penbleth gweledol.

Mae ei waith wedi'i wreiddio mewn profiad uniongyrchol, weithiau o sefyllfa benodol ond yn amlach mae'n ymwneud â chyfuniad o ddigwyddiadau cysylltiedig. Mae'r canlyniadau'n gyfoethog o hwyliau ac yn amwysedd iawn. 'Mae ceinder a harddwch yn y modd y mae natur yn datgelu ei hun'

Mae’r gwaith yn cael ei gasglu gan gyrff cyhoeddus ac unigolion preifat yn y DU a thramor.

 

Casgliadau

Cymdeithas Gelfyddyd Gyfoes Cymru

Amgueddfa ac Oriel Glynn Morgan, Abertawe

Amgueddfa ac Oriel Gelf Brycheiniog