ARDDANGOSFA AR DDOD
C L A U D I A W I L L I A M S R.C.A.
ARDDANGOSFA PENBLWYDD YN 75
20ed o Fai – 14eg o Fehefin 2008
Wedi'i geni ym 1933, mae Claudia Williams wedi'i sefydlu fel un o artistiaid mwyaf poblogaidd Cymru. Mae'n awr wedi dychwelyd i fyw a gweithio yng Nghymru wedi cyfnod yn Ffrainc, lle’r edmygir ei gwaith yn fawr. Yn 1995 enillodd Fedal Arian gan Academi Celf, Gwyddoniaeth a Llenyddiaeth Paris, yn adnabyddiaeth am ei chyfraniad tuag at y celfyddydau yn Ffrainc.
Fel plentyn fe enillodd nifer o wobrau cenedlaethol am ei darlunio, ac yn un ar bymtheg oed enillodd ysgoloriaeth i fynd i Ysgol Gelf Chelsea. Yn 1954 symydodd i fyw yng Ngogledd Cymru lle priododd yr arlunydd Gwilym Prichard gan ddechrau bywyd prysur o beintio, arddangos, a magu pedwar o blant.
Mae paentiadau a lluniau Claudia yn adlewyrchu y cylch teuluol; plant, wyrion, a theithiau glan y môr. Yn ogystal, trafodai faterion mwy dadleuol, yn bennaf boddi Tryweryn. Mae ei chariad amlwg at ei thestun, gyda llygad am wneuthuriad a lliw, yn cyfuno i gynhyrchu paentiadau gydag apêl mawr.
Mae gwaith Claudia wedi cael ei arddangos yn rheolaidd dros y 40 mlynedd diwethaf, ac mae ei gwaith mewn llawer o gasgliadau cyhoeddus a phreifat. Cynhaliwyd arddangosfa ôl-ygol boblogaidd iawn iddi yn Llyfyrgell Genedlaethol Cymru yn 2000. Mae’r arddangosfa yma o‘i gwaith diweddaraf yn ddathliad o’i phenblwydd yn 75 mlwydd oed ac yn dangos Claudia ar ei gorau.
Cartref Presennol Artistiaid Cyswllt Newyddion Llyfrau & Chatalogau
Arbenigwyr Celf Cymreig Copyright 2008 Martin Tinney Gallery.